Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2015
Amser: 08.30 -
08.44
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Peter Greening, Llywodraeth Cymru Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth |
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.
Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai pob pleidlais mewn perthynas â Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3.
Nododd y Rheolwyr Busnes y bydd y pleidleisio ar bob eitem arall o fusnes dydd Mawrth yn cael ei gynnal cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiad am Gyfarfodydd y Diwydiant Dur ddydd Mercher.
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2015 –
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60
munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar ddyddiadau toriad hanner tymor y Gwanwyn a dyddiadau toriad y Pasg ar gyfer 2016 ond y byddent yn adolygu dyddiadau toriad y Pasg pe bai'n dod yn amlwg y bydd angen mwy o ddiwrnodau eistedd ar ddiwedd y Cynulliad. Cytunodd y Rheolwyr Busnes mai'r opsiwn dewisol pe bai angen mwy o ddiwrnodau eistedd fyddai eistedd yn ystod yr wythnos 21-24 Mawrth, ond y byddai eistedd hyd at y diddymiad hefyd yn opsiwn.
Bil Cymru drafft
Soniodd Elin Jones am ystyriaeth y Cynulliad o Fil Cymru Drafft, a gofynnodd y Rheolwyr Busnes i'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno papur ar opsiynau ar gyfer trafod adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil Cymru Drafft yn y Cyfarfod Llawn.
Cyfarfod ychwanegol o'r Pwyllgor Busnes
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y bydd y cyfarfod ychwanegol i drafod y materion allweddol sy'n deillio o dystiolaeth a gyflwynwyd ar gyfer adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor Busnes yn cael ei gynnal am 15.30 ddydd Llun 30 Tachwedd.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd y byddai yr holl eitemau arferol o fusnes hefyd yn cael eu trafod yn y cyfarfod hwnnw, ac felly ni fyddai unrhyw gyfarfod yn slot arferol y Pwyllgor ar 1 Rhagfyr.